Philipiaid 4:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.

20. I'n Duw a'n Tad y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.

21. Cyfarchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae'r cyfeillion sydd gyda mi yn eich cyfarch chwi.

22. Y mae'r saint i gyd, ac yn arbennig y rhai sydd yng ngwasanaeth Cesar, yn eich cyfarch.

23. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd!

Philipiaid 4