Philipiaid 4:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Nid ceisio'r rhodd yr wyf, ond ceisio'r elw sy'n cynyddu i'ch cyfrif chwi.

18. Yr wyf fi wedi derbyn fy nhâl yn llawn, a mwy na hynny; y mae gennyf gyflawnder ar ôl derbyn trwy law Epaffroditus yr hyn a anfonasoch chwi; y mae hynny'n arogl pêr, yn aberth cymeradwy, wrth fodd Duw.

19. A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.

20. I'n Duw a'n Tad y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.

21. Cyfarchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae'r cyfeillion sydd gyda mi yn eich cyfarch chwi.

22. Y mae'r saint i gyd, ac yn arbennig y rhai sydd yng ngwasanaeth Cesar, yn eich cyfarch.

23. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd!

Philipiaid 4