Philemon 1:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yr wyf yn ysgrifennu atat mewn sicrwydd y byddi'n ufuddhau; gwn y byddi'n gwneud mwy nag yr wyf yn ei ofyn.

22. Yr un pryd hefyd, paratoa lety imi, oherwydd rwy'n gobeithio y caf fy rhoi i chwi mewn ateb i'ch gweddïau.

23. Y mae Epaffras, fy nghydgarcharor yng Nghrist Iesu, yn dy gyfarch;

24. a Marc, Aristarchus, Demas a Luc, fy nghydweithwyr.

25. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi!

Philemon 1