Numeri 9:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Nid ydynt i adael dim ohono'n weddill hyd y bore, na thorri asgwrn ohono; y maent i gadw'r holl ddeddf ynglŷn â'r Pasg.

13. Ond os bydd rhywun yn lân, a heb fod ar daith, ac eto'n gwrthod cadw'r Pasg, bydd yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl, am nad offrymodd i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig, a bydd yn dioddef am ei bechod.

14. Os bydd dieithryn yn aros yn eich plith, ac yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny yn ôl y ddeddf a'r ddefod sy'n gysylltiedig ag ef; yr un ddeddf fydd i'r dieithryn ac i'r brodor.’ ”

15. Ar y dydd y codwyd y tabernacl daeth cwmwl a gorchuddio tabernacl pabell y cyfarfod; ymddangosai fel tân drosto, o'r hwyr hyd y bore.

16. Ac felly y parhaodd; yr oedd cwmwl yn ei orchuddio, ac yn y nos ymddangosai fel tân drosto.

17. Pan godai'r cwmwl oddi ar y babell, byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, a lle bynnag yr arhosai'r cwmwl, byddent yn gwersyllu.

18. Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, ac ar ei orchymyn ef byddent yn gwersyllu; pryd bynnag y byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl, byddent yn aros yn y gwersyll.

19. Hyd yn oed pan fyddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am lawer o ddyddiau, byddai pobl Israel yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, ac ni fyddent yn cychwyn ar eu taith.

20. Weithiau byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ychydig ddyddiau, a byddent hwythau'n aros yn y gwersyll yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith.

21. Dro arall, byddai'r cwmwl yno o'r hwyr hyd y bore yn unig, ac yna pan godai, byddent yn cychwyn allan, ac os byddai yno trwy'r dydd a'r nos, ac yna'n codi, byddent yn cychwyn allan.

Numeri 9