Numeri 7:39-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

40. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

41. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai.

42. Ar y chweched dydd, offrymodd Eliasaff fab Reuel, arweinydd pobl Gad, ei offrwm yntau:

43. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

Numeri 7