Numeri 6:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread, pan ddaw cyfnod ei ymgysegriad i ben: deuer ag ef at ddrws pabell y cyfarfod

14. lle bydd yn cyflwyno offrymau i'r ARGLWYDD, sef oen gwryw di-nam yn boethoffrwm, hesbin ddi-nam yn aberth dros bechod, a hwrdd di-nam yn heddoffrwm,

15. ynghyd â basgedaid o fara croyw, teisennau peilliaid wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, ynghyd â'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm.

Numeri 6