Numeri 5:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Ond os na fu i'r wraig ei halogi ei hun, ac os yw'n lân, yna bydd yn rhydd i esgor ar blant.

29. “ ‘Dyma'r ddeddf mewn achosion o eiddigedd pan fo gwraig, a hithau dan awdurdod ei gŵr, yn cyfeiliorni ac yn ei halogi ei hun,

30. a phan fo ysbryd o eiddigedd yn dod dros y gŵr o achos ei wraig: y mae i wneud iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn ei thrin yn unol â'r holl ddeddf hon.

31. Bydd y gŵr yn ddieuog o gamwedd, ond bydd y wraig yn dwyn ei chamwedd arni hi ei hun.’ ”

Numeri 5