Numeri 5:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r bwydoffrwm fel offrwm coffa, ac yn ei losgi ar yr allor; yna fe wna i'r wraig yfed y dŵr.

27. Os bu i'r wraig ei halogi ei hun a bod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr, wedi iddi ei yfed, yn achosi melltith ac yn peri artaith chwerw iddi. Bydd ei chroth yn chwyddo a'i chlun yn pydru, a bydd y wraig yn felltith ymhlith ei phobl.

28. Ond os na fu i'r wraig ei halogi ei hun, ac os yw'n lân, yna bydd yn rhydd i esgor ar blant.

Numeri 5