Numeri 4:38-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Dyma nifer y Gersoniaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:

39. cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

40. wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, oedd dwy fil chwe chant a thri deg.

41. Dyma nifer y rhai o deuluoedd y Gersoniaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD.

42. Dyma nifer teuluoedd y Merariaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:

43. cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

44. wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau, oedd tair mil a dau gant.

Numeri 4