Numeri 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2. “Gwna gyfrifiad o'r rhai ymhlith y Lefiaid sy'n feibion Cohath, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,

3. a chynnwys bawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.

4. Dyma fydd gwaith meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod: gofalu am y pethau mwyaf cysegredig.

5. Pan fydd yn amser symud y gwersyll, bydd Aaron a'i feibion yn mynd i mewn a thynnu'r gorchudd, a'i daenu dros arch y dystiolaeth;

Numeri 4