1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
2. “Gwna gyfrifiad o'r rhai ymhlith y Lefiaid sy'n feibion Cohath, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,
3. a chynnwys bawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.
4. Dyma fydd gwaith meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod: gofalu am y pethau mwyaf cysegredig.
5. Pan fydd yn amser symud y gwersyll, bydd Aaron a'i feibion yn mynd i mewn a thynnu'r gorchudd, a'i daenu dros arch y dystiolaeth;
6. yna byddant yn rhoi gorchudd o grwyn morfuchod drosti, a thros hwnnw liain o sidan sy'n las drwyddo, a gosod y polion yn eu lle.
7. Yna y maent i gymryd lliain arall o sidan glas, a'i daenu dros fwrdd y bara gosod, a rhoi ar y bwrdd y platiau a'r dysglau, y ffiolau a'r costrelau i dywallt y diodoffrwm; bydd y bara yn aros bob amser ar y bwrdd.
8. Y maent i roi drostynt liain o ysgarlad, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.
9. Byddant hefyd yn cymryd lliain glas a gorchuddio'r canhwyllbren sy'n goleuo, ei lampau, ei efeiliau a'i gafnau, a'r holl lestri sy'n dal yr olew ar ei gyfer.
10. Yna rhoddant y canhwyllbren gyda'i holl lestri mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'i osod ar y trosolion.
11. Wedyn byddant yn rhoi lliain glas dros yr allor aur, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.