41. Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.
42. Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.
43. Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.
44. Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.
45. Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad.
46. Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim.
47. Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.
48. Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen;
49. yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.
50. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, a dweud,
51. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan,
52. yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;
53. yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu.
54. Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn ôl llwythau eich hynafiaid.
55. Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi;
56. ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.’ ”