Numeri 33:40-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.

41. Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.

42. Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.

43. Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.

44. Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.

45. Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad.

46. Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim.

47. Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.

Numeri 33