Numeri 33:39-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.

40. Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.

41. Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.

42. Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.

43. Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.

44. Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.

Numeri 33