Numeri 33:31-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan.

32. Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad.

33. Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha.

34. Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona.

35. Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber.

36. Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.

37. Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.

38. Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.

39. Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.

Numeri 33