Numeri 33:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Aethant o'r Môr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.

12. Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca.

13. Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus.

14. Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd dŵr i'r bobl i'w yfed.

15. Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai.

16. Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa.

17. Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth.

18. Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma.

Numeri 33