Numeri 33:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.

2. Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.

3. Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,

4. tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.

5. Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.

6. Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.

Numeri 33