Numeri 33:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.

2. Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.

3. Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,

4. tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.

5. Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.

6. Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.

7. Aethant o Etham a throi'n ôl i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.

8. Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara.

9. Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau dŵr a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno.

10. Aethant o Elim a gwersyllu wrth y Môr Coch.

11. Aethant o'r Môr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.

Numeri 33