Numeri 32:35-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,

36. Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.

37. Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,

38. Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.

39. Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.

40. Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno.

41. Aeth Jair fab Manasse i gymryd meddiant o bentrefi Gilead, a rhoddodd iddynt yr enw Hafoth-jair.

Numeri 32