21. ac os â pob dyn arfog sydd yn eich plith dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a gyrru ei elynion allan,
22. a darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD, yna cewch ddychwelyd, a byddwch yn rhydd o'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel, a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi gerbron yr ARGLWYDD.
23. Ond os na wnewch hyn, byddwch yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, a chewch wybod y bydd eich pechod yn eich dal.
24. Adeiladwch ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch praidd, a gwnewch yr hyn a addawsoch.”
25. Dywedodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben wrth Moses, “Fe wna dy weision fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.
26. Bydd ein plant a'n gwragedd, ein gwartheg a'n holl anifeiliaid, yn aros yma yn ninasoedd Gilead,
27. ond fe â dy weision drosodd o flaen yr ARGLWYDD, pob un yn arfog ar gyfer rhyfel, fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.”
28. Rhoddodd Moses orchymyn ynglŷn â hwy i Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun, ac i bennau-teuluoedd llwythau pobl Israel.