Numeri 32:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Os gwrthodwch ei ddilyn, bydd yn gadael yr holl bobl hyn unwaith eto yn yr anialwch, a chwi fydd wedi eu difa.”

16. Yna daethant ato a dweud, “Fe adeiladwn gorlannau yma i'n praidd, a dinasoedd i'n plant;

17. caiff ein plant fyw yn y dinasoedd caerog, yn ddiogel rhag trigolion y wlad, tra byddwn ninnau'n cymryd arfau, yn arwain pobl Israel, ac yn eu tywys i'w lle eu hunain.

18. Ni ddychwelwn adref nes i bob un o'r Israeliaid feddiannu ei etifeddiaeth.

19. Ond ni fyddwn ni'n cymryd etifeddiaeth gyda hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, oherwydd rhoddwyd etifeddiaeth i ni yr ochr yma, o'r tu dwyrain i'r Iorddonen.”

20. Dywedodd Moses wrthynt, “Os gwnewch hyn, a chymryd arfau a mynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD,

21. ac os â pob dyn arfog sydd yn eich plith dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a gyrru ei elynion allan,

22. a darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD, yna cewch ddychwelyd, a byddwch yn rhydd o'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel, a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi gerbron yr ARGLWYDD.

23. Ond os na wnewch hyn, byddwch yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, a chewch wybod y bydd eich pechod yn eich dal.

Numeri 32