Numeri 31:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Cymerodd yr Israeliaid wragedd Midian a'u plant yn garcharorion, a dwyn yn ysbail eu holl wartheg a'u defaid a'u heiddo i gyd.

10. Llosgwyd yr holl ddinasoedd y buont yn byw ynddynt, a'u holl wersylloedd,

11. a chymerwyd y cyfan o'r ysbail a'r anrhaith, yn ddyn ac anifail.

12. Yna daethant â'r carcharorion, yr ysbail a'r anrhaith at Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac at gynulliad pobl Israel oedd yn gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.

13. Aeth Moses, Eleasar yr offeiriad, a holl arweinwyr y cynulliad i'w cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.

Numeri 31