Numeri 31:51-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

51. Yna cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur a'r holl addurniadau cywrain oddi wrthynt.

52. Yr oedd yr holl aur a offrymwyd i'r ARGLWYDD gan gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd yn pwyso un deg chwech o filoedd saith gant a phum deg o siclau,

53. gan fod pob un o'r rhyfelwyr wedi cymryd rhywfaint o'r ysbail.

54. Cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur oddi wrth gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a daethant ag ef i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD.

Numeri 31