Numeri 31:50-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. Cyflwynodd pob un ohonom yr hyn a gafodd, addurniadau aur, cadwynau, breichledau, modrwyau, clustlysau, a thorchau, yn offrwm i'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud cymod drosom ein hunain gerbron yr ARGLWYDD.”

51. Yna cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur a'r holl addurniadau cywrain oddi wrthynt.

52. Yr oedd yr holl aur a offrymwyd i'r ARGLWYDD gan gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd yn pwyso un deg chwech o filoedd saith gant a phum deg o siclau,

53. gan fod pob un o'r rhyfelwyr wedi cymryd rhywfaint o'r ysbail.

Numeri 31