Numeri 31:47-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

47. O gyfran yr Israeliaid, cymerodd Moses un o bob hanner cant o ddynion ac o anifeiliaid, a'u rhoi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

48. Yna daeth y rhai oedd yn swyddogion dros filoedd y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, at Moses

49. a dweud wrtho, “Y mae dy weision wedi cyfrif y rhyfelwyr a roddaist dan ein hawdurdod, a chael nad ydym wedi colli'r un ohonynt.

Numeri 31