Numeri 3:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.

9. Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.

10. Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos.”

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

12. “Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,

Numeri 3