40. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn ôl eu henwau.
41. Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD.”
42. Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
43. Ar ôl cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.
44. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
45. “Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.
46. Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,
47. cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn ôl sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;
48. yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion.”
49. Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,
50. ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn ôl sicl y cysegr.
51. Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.