4. Bu farw Nadab ac Abihu wedi iddynt offrymu ar dân halogedig o flaen yr ARGLWYDD yn anialwch Sinai. Nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt feibion; felly Eleasar ac Ithamar a fu'n gwasanaethu fel offeiriaid yng ngŵydd eu tad Aaron.
5. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6. “Tyrd â llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.
7. Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.
8. Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.
9. Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.
10. Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos.”
11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
12. “Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,
13. oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.”
14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,
15. “Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd.”