Numeri 3:39-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Cyfanswm y Lefiaid a gyfrifodd Moses ac Aaron yn ôl eu tylwythau ar orchymyn yr ARGLWYDD, gan gynnwys pob gwryw mis oed a throsodd, oedd dwy fil ar hugain.

40. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn ôl eu henwau.

41. Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD.”

42. Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

Numeri 3