Numeri 3:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.

28. Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.

29. Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.

30. Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.

31. Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.

Numeri 3