Numeri 29:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;

9. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,

10. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

11. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at yr aberth dros bechod er cymod, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.

12. “Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol, ond cadwch ŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.

13. Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef tri ar ddeg o fustych ifainc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd; byddant yn ddi-nam;

14. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob un o'r tri ar ddeg o fustych, dwy ddegfed ran ar gyfer pob un o'r ddau hwrdd,

Numeri 29