Numeri 28:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew; offrymwch dair degfed ran ar gyfer bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer hwrdd,

21. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

22. hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.

23. Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd.

24. Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

Numeri 28