Numeri 28:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Gorchymyn i bobl Israel a dywed wrthynt, ‘Gofalwch offrymu i mi ar yr adeg benodedig fy rhodd o fwyd ar gyfer fy offrymau trwy dân a'm harogl peraidd.’

3. Dywed wrthynt, ‘Dyma'r offrwm yr ydych i'w offrymu trwy dân i'r ARGLWYDD: dau oen blwydd di-nam yn boethoffrwm rheolaidd bob dydd,

4. un oen i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr;

5. ac yn fwydoffrwm: degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew pur.

6. Bydd hwn yn boethoffrwm rheolaidd a ordeiniwyd ar Fynydd Sinai i fod yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

7. Yr wyt i dywallt diod gadarn yn ddiodoffrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr, chwarter hin ar gyfer pob oen.

Numeri 28