Numeri 23:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft,ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.

23. Nid oes swyn yn erbyn Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel;yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel,‘Gwaith Duw yw hyn!’

24. Dyma bobl sy'n codi fel llewes,ac yn ymsythu fel llew;nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaethac yfed o waed yr hyn a larpiodd.”

25. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Paid â'u melltithio na'u bendithio mwyach.”

26. Ond atebodd Balaam ef, “Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?”

Numeri 23