7. Felly aeth henuriaid Moab a Midian at Balaam, gyda'r tâl am ddewino yn eu llaw, a rhoi iddo'r neges oddi wrth Balac.
8. Dywedodd Balaam wrthynt, “Arhoswch yma heno; dychwelaf â gair atoch, yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi llefaru wrthyf.” Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam. Yna daeth Duw at Balaam, a gofyn,
9. “Pwy yw'r dynion hyn sydd gyda thi?”
10. Atebodd Balaam ef, “Anfonodd Balac fab Sippor, brenin Moab, neges ataf yn dweud,
11. ‘Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad; tyrd, yn awr, a melltithia hwy imi; yna hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan.’ ”
12. Dywedodd Duw wrth Balaam, “Paid â mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio.”
13. Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, “Ewch yn ôl i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi.”