Numeri 22:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gorweddodd dan Balaam; ond gwylltiodd yntau, a tharo'r asen â'i ffon.

28. Yna agorodd yr ARGLWYDD enau'r asen, a pheri iddi ddweud wrth Balaam, “Beth a wneuthum iti, dy fod wedi fy nharo deirgwaith?”

29. Atebodd Balaam hi, “Fe wnaethost ffŵl ohonof. Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw, byddwn yn dy ladd.”

30. Yna gofynnodd yr asen i Balaam, “Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth â thi erioed o'r blaen?” Atebodd yntau, “Naddo.”

Numeri 22