Numeri 21:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Ond lladdodd yr Israeliaid ef â min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw.

25. Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi.

26. Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon.

Numeri 21