Numeri 20:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Felly tyrd ag Aaron a'i fab Eleasar i fyny Mynydd Hor,

26. a chymer y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar; yna bydd Aaron yn cael ei gasglu at ei bobl, ac yn marw yno.”

27. Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac aethant i fyny Mynydd Hor, a'r holl gynulleidfa yn eu gwylio.

28. Cymerodd Moses y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar, a bu Aaron farw yno ar ben y mynydd.

Numeri 20