Numeri 20:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ond dywedodd ef, “Ni chei di ddim mynd.” Daeth Edom allan yn eu herbyn gyda byddin fawr o ddynion,

21. a gwrthododd adael i Israel fynd trwy ei dir; felly fe drodd Israel ymaith oddi wrtho.

22. Aeth holl gynulleidfa pobl Israel o Cades, a chyrraedd Mynydd Hor.

Numeri 20