21. a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.
22. Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,
23. a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.
24. Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
25. “Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,
26. a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
27. Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,
28. a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.
29. Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,
30. a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
31. Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun.”
32. Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn ôl eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn ôl eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.