13. a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.
14. Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,
15. a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.
16. Cyfanswm gwersyll Reuben, yn ôl eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.
17. “Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.
18. “Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim,
19. a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant.
20. Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse,
21. a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.
22. Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,
23. a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.
24. Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
25. “Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,
26. a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
27. Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,
28. a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.
29. Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,