Numeri 2:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben,

11. a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant.

12. Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,

13. a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.

14. Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,

15. a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.

16. Cyfanswm gwersyll Reuben, yn ôl eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.

17. “Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.

Numeri 2