1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
2. “Bydd pobl Israel yn gwersyllu o amgylch pabell y cyfarfod, ychydig oddi wrthi, pob un dan ei faner ei hun a than arwydd tŷ ei dad.
3. Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner.
4. Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
5. Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,
6. a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
7. Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,
8. a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant.
9. Cyfanswm gwersyll Jwda, yn ôl eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.
10. “Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben,
11. a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
12. Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,
13. a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.
14. Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,
15. a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.