Numeri 19:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2. “Dyma'r ddeddf a'r gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â buwch atat, un goch heb unrhyw ddiffyg na nam arni, ac na fu erioed dan iau.

3. Rhowch hi i Eleasar yr offeiriad, a deuer â hi y tu allan i'r gwersyll a'i lladd ger ei fron.

4. Yna fe gymer Eleasar yr offeiriad beth o'r gwaed a'i daenellu â'i fys saith gwaith ar du blaen pabell y cyfarfod.

5. Llosger y fuwch yn ei ŵydd, ynghyd â'i chroen, ei chig, ei gwaed a'i gweddillion.

6. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd coed cedrwydd, isop ac edau ysgarlad, ac yn eu taflu i ganol y tân sy'n llosgi'r fuwch.

7. Wedyn bydd yn golchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac yn dod i mewn i'r gwersyll, ond ni fydd yn lân tan yr hwyr.

8. Y mae'r dyn a losgodd y fuwch hefyd i olchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac ni fydd yntau ychwaith yn lân tan yr hwyr.

9. Yna bydd dyn sy'n lân yn casglu lludw'r fuwch ac yn ei roi mewn lle glân y tu allan i'r gwersyll, ac fe'i cedwir i gynulliad pobl Israel ei ddefnyddio ar gyfer dŵr puredigaeth; bydd y fuwch, felly, yn aberth dros bechod.

Numeri 19