Numeri 19:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2. “Dyma'r ddeddf a'r gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â buwch atat, un goch heb unrhyw ddiffyg na nam arni, ac na fu erioed dan iau.

3. Rhowch hi i Eleasar yr offeiriad, a deuer â hi y tu allan i'r gwersyll a'i lladd ger ei fron.

4. Yna fe gymer Eleasar yr offeiriad beth o'r gwaed a'i daenellu â'i fys saith gwaith ar du blaen pabell y cyfarfod.

5. Llosger y fuwch yn ei ŵydd, ynghyd â'i chroen, ei chig, ei gwaed a'i gweddillion.

6. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd coed cedrwydd, isop ac edau ysgarlad, ac yn eu taflu i ganol y tân sy'n llosgi'r fuwch.

7. Wedyn bydd yn golchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac yn dod i mewn i'r gwersyll, ond ni fydd yn lân tan yr hwyr.

8. Y mae'r dyn a losgodd y fuwch hefyd i olchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac ni fydd yntau ychwaith yn lân tan yr hwyr.

9. Yna bydd dyn sy'n lân yn casglu lludw'r fuwch ac yn ei roi mewn lle glân y tu allan i'r gwersyll, ac fe'i cedwir i gynulliad pobl Israel ei ddefnyddio ar gyfer dŵr puredigaeth; bydd y fuwch, felly, yn aberth dros bechod.

10. Y mae'r dyn sy'n casglu lludw'r fuwch hefyd i olchi ei ddillad, ac ni fydd yn lân tan yr hwyr. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel a'r dieithriaid sy'n byw yn eu plith.

Numeri 19