5. Chwi eich hunain fydd yn gofalu am waith y cysegr a'r allor, rhag i ddigofaint ddod eto ar bobl Israel.
6. Edrych, yr wyf wedi dewis dy frodyr, y Lefiaid, o blith pobl Israel, a'u rhoi i ti; y maent wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.
7. Fel offeiriaid, yr wyt ti a'th feibion i ofalu am bopeth sy'n ymwneud â'r allor, a phopeth oddi mewn i'r llen; dyna fydd eich gwasanaeth chwi. Yr wyf yn rhoi'r gwasanaeth offeiriadol yn rhodd i chwi, a bydd farw pwy bynnag arall a ddaw'n agos.”