Numeri 18:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gad iddynt ymuno â thi i oruchwylio holl wasanaeth pabell y cyfarfod, ond paid â gadael i neb arall ddod yn agos atat.

5. Chwi eich hunain fydd yn gofalu am waith y cysegr a'r allor, rhag i ddigofaint ddod eto ar bobl Israel.

6. Edrych, yr wyf wedi dewis dy frodyr, y Lefiaid, o blith pobl Israel, a'u rhoi i ti; y maent wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.

7. Fel offeiriaid, yr wyt ti a'th feibion i ofalu am bopeth sy'n ymwneud â'r allor, a phopeth oddi mewn i'r llen; dyna fydd eich gwasanaeth chwi. Yr wyf yn rhoi'r gwasanaeth offeiriadol yn rhodd i chwi, a bydd farw pwy bynnag arall a ddaw'n agos.”

8. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy ofal hefyd yr offrymau a gyflwynir imi; yr wyf yn rhoi holl bethau cysegredig pobl Israel i ti ac i'th feibion yn gyfran arbennig am byth.

9. Dyma fydd yn eiddo iti o'r pethau mwyaf cysegredig a arbedwyd rhag y tân: pob offrwm o eiddo'r Israeliaid a gyflwynir imi, yn fwydoffrwm, yn offrwm dros bechod neu'n aberth dros gamwedd; bydd yn gysegredig iawn gennyt ti a'th feibion.

10. Yr wyt i'w fwyta yn y lle mwyaf sanctaidd; caiff pob gwryw fwyta ohono, a bydd yn gysegredig gennyt.

Numeri 18