Numeri 15:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. yna deuer â bwydoffrwm o dair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â hanner hin o olew,

10. ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â hanner hin o win; bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

11. Felly y gwneir â phob ych, hwrdd, oen gwryw a gafr,

12. pa faint bynnag ohonynt y byddwch yn eu hoffrymu.

13. Dyma sut y mae'r holl frodorion i offrymu offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.’

Numeri 15