Numeri 14:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Bydd eich plant yn crwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd ac yn dioddef am eich anffyddlondeb chwi, nes i'r olaf ohonoch farw yn yr anialwch.

34. Am ddeugain mlynedd, sef blwyddyn am bob un o'r deugain diwrnod y buoch yn ysbïo'r wlad, byddwch yn dioddef am eich drygioni ac yn gwybod am fy nigofaint.’

35. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; byddaf yn sicr o wneud hyn i bob un o'r cynulliad drygionus hwn sydd wedi cynllwyn yn f'erbyn. Y mae'r diwedd ar eu gwarthaf, a byddant farw yn yr anialwch hwn.”

36. Felly, am y dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad, sef y rhai a ddychwelodd â'r adroddiad gwael amdani, a pheri i'r holl gynulliad rwgnach yn ei erbyn,

37. eu tynged oedd marw trwy bla gerbron yr ARGLWYDD.

Numeri 14