Numeri 14:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. ‘Lladdodd yr ARGLWYDD y bobl hyn yn yr anialwch am na fedrai ddod â hwy i'r wlad y tyngodd lw ei rhoi iddynt.’

17. Felly erfyniaf ar i nerth yr ARGLWYDD gynyddu, fel yr addewaist pan ddywedaist,

18. ‘Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ac yn llawn o drugaredd, yn maddau drygioni a gwrthryfel; eto, heb adael yr euog yn ddi-gosb, y mae'n cosbi'r plant am droseddau'r tadau hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.’

19. Yn ôl dy drugaredd fawr, maddau ddrygioni'r bobl hyn, fel yr wyt wedi maddau iddynt o ddyddiau'r Aifft hyd yn awr.”

20. Atebodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi maddau iddynt, yn ôl dy ddymuniad;

21. ond yn awr, cyn wired â'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear,

Numeri 14